Amdanom ni

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud?

  • Rydym yn labordy diagnostig milfeddygol yn Aberystwyth, ac yn cynnal archwiliadau post-mortem ar gyfer practisiau milfeddygon anifieiliaid fferm yng Nghymru.
  • Mae’r archwiliadau post-mortem, ynghyd â phrofion labordy arferol eraill rydym yn eu cynnal, yn ein cynorthwyo i ddiagnosio a monitro clefydau a phroblemau ar eich ffermydd.
  • Trwy ymchwilio pam fod anifeiliaid wedi marw bydd modd i chi gydweithio gyda’ch milfeddyg lleol i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen, a ddylai arwain at stoc iachach a ffermio fwy effeithlon a phroffidiol.
  • Mae’r gwaith yn ein labordy yn bwydo mewn i waith arolygaeth cenedlaethol, sy’n helpu i fonitro lefelau clefydau yn y wlad ac yn rhoi gwybodaeth i ni am glefydau newydd neu rhai sy’n ymddangos.

    Faint mae’n ei gostio?

    Rydym yn sefydliad nid-er-elw ac mae ein ffioedd yn deg a rhesymol. Am fwy o wybodaeth am bris ein gwahanol wasanaethau, ewch i’r dudalen berthnasol.

    Archwiliadau post-mortem milfeddygol arbenigol a diagnosis ar glefydau

     

    RYDYM YN YMRODDEDIG.

    Rydym yn dîm ymroddedig sy’n gweithio’n galed ac yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau dibynadwy.

     

    RYDYM YN EFFEITHLON.

    Rydym yn cynnal gwasanaeth effeithlon trwy fod yn drefnus iawn a chyfathrebu’n rheolaidd â’n cwsmeriaid, gan ddarparu canlyniadau mewn modd amserol.

     

    RYDYM NI O ANSAWDD DDA.

    Mae ein labordy yn labordy profi achrededig UKAS Rhif 9934. Mae rhai o’r profion rydym ni’n eu cynnal wedi’u cymeradwyo i’r safon rhyngwladol ISO/IEC 17025:2017 (‘Gofynion cyffredinol ar gyfer cymhwysedd labordai profi a graddnodi’). I edrych y siediwl, cliciwch yma: https://www.ukas.com/download-schedule/9934/Testing/

     

    Amdanom ni

    Sefydlwyd Canolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC) yn 2015 gan Iechyd Da (consortiwm o bractisau milfeddygol Cymreig ynghyd â Chynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cyf (Welsh Lamb and Beef Producers Ltd), gan weithio mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth. Penodwyd WVSC gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) fel partner ddarparwr i ddarparu archwiliadau post-mortem arbenigol (PMEs) o glefydau newydd a rhai sy’n ail ymddangos ymysg anifeiliaid fferm, gan gyfrannu at graffu gwell o fewn y rhwydwaith arolygaeth cenedlaethol, ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r WVSC yn gwmni nid-er-elw sydd, yn ogystal â darparu PMEs, hefyd yn cefnogi’r sectorau milfeddygol ac amaethyddol gyda’n profion labordy diagnostig, cyngor a hyfforddiant.

    Ein hymrwymiad i chi:

    Mae’r WVSC yn ymfalchïo yn y gwasanaeth cyflym ac effeithlon mae’n ei ddarparu, ond mae ein pwyslais bob amser ar ansawdd. Er ein bod fel arfer yn cael canlyniadau allan yn gynt na’r amseroedd a hysbysir ganddom, efallai na fyddwn yn medru eu hanfon allan mor gyflym a’r arfer, ac yn ystod cyfnodau prysur. Gallwn eich sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i gadw at yr amseroedd o anfon canlyniadau profion allan, fel a hysbysir ganddom.

    Byddwn yn trin y wybodaeth rydych chi’n ei roi i ni wrth gyflwyno samplau yn hollol gyfrinachol. Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd diweddaraf.

     

    Cynaladwyaeth

    Mae’r WVSC yn ymroddedig i gynaladwyaeth gan anelu i fod yn garbon niwtral erbyn 2050. I weld ein Cynllun Carbon Niwtral cliciwch yma.